Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 11 Rhagfyr 2017

Amser: 14.01 - 15.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4357


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Neil Hamilton AC

Vikki Howells AC

Rhianon Passmore AC

Adam Price AC

Lee Waters AC

Tystion:

Mark Child, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol

Rachel Evans, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol

Swyddfa Archwilio Cymru:

Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Matthew Mortlock

Staff y Pwyllgor:

Huw Vaughan Thomas

Matthew Mortlock

Fay Bowen (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

·         O ran llifogydd arfordirol, cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ddiweddariad ar ei hamserlen ar gyfer y Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol a rhoi gwybod i Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig am y pecyn cymorth arfordirol i gyd-fynd â'r Strategaeth newydd ar gyfer y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol o safbwynt ad-alinio.

·         O ran yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru ar arferion a gweithdrefnau gwaith, teimlai'r Aelodau fod yr ymateb yn gadarnhaol ond y byddai angen monitro agos i sicrhau bod ymatebion Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor yn rhoi esboniadau llawn yn gyson ynghylch pam y cafodd argymhelliad ei dderbyn ai peidio. Cytunodd y Cadeirydd i ymateb i'r Ysgrifennydd Parhaol gyda barn y Pwyllgor.

</AI2><AI3>

2.1   Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (20 Tachwedd 2017)

</AI3>

<AI4>

2.2   Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (21 Tachwedd 2017)

</AI4>

<AI5>

2.3   Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru

</AI5>

<AI6>

2.4   Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (24 Tachwedd 2017)

</AI6>

<AI7>

2.5   Archwiliad o Gydberthynas Gytundebol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro gydag RKC Associates Ltd a'i Berchennog: Gwybodaeth ychwanegol gan BIP Prifysgol Caerdydd a'r Fro (30 Tachwedd 2017)

</AI7>

<AI8>

2.6   Craffu ar Gyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (29 Tachwedd 2017)

</AI8>

<AI9>

3       Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn Dystiolaeth 4

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Mark Child, Cadeirydd, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Western Bay a Rachel Evans, Arweinydd Cefnogi Pobl, Awdurdod Cydlynu Dinas a Sir Abertawe fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.

</AI9>

<AI10>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI10>

<AI11>

5       Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI11>

<AI12>

6       Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif:  Trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

6.1 Nododd yr Aelodau y diweddariad ysgrifenedig a chytunwyd i ymgymryd ag ymchwiliad yn ystod tymor yr haf 2018.

</AI12>

<AI13>

7       Caffael Cyhoeddus yng Nghymru: Adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru:

7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar 30 Tachwedd. Roedd yr Aelodau eisoes wedi cytuno i ymgymryd ag ymchwiliad i Gaffael Cyhoeddus yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad cynharach ar Gaffael Cyhoeddus - Adolygiad o'r Cefndir ar 23 Hydref.

7.2 Nododd yr aelodau y bydd sesiynau tystiolaeth yn cael eu trefnu ar gyfer tymor y  gwanwyn 2018.

</AI13>

<AI14>

8       Yr Heriau Llywodraethu yn sgil gwasanaethau anuniongyrchol a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru: Diweddariad Llafar gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

8.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol ddiweddariad llafar ar ei bapur trafod a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2017 ac a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod ei gyfarfod ar 6 Mawrth 2017.

8.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn ceisio diweddariad ar y cynnydd a wnaed o safbwynt y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a chwmnïau hyd braich.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>